Yng Nghymru, rydym am roi’r cychwyn gorau posibl i’n plant a’n pobl ifanc. Mae hynny’n golygu darparu system addysg o’r radd flaenaf, sy’n eu galluogi i gyflawni eu potensial yn llawn. Ein nod yw sicrhau’r canlyniadau dysgu gorau ar gyfer ein holl blant a phobl ifanc. Rhaid inni hefyd wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau eu lles.
Mae’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion (FfEY) yn dangos ein hymrwymiad i wneud hynny. Bydd y FfEY yn cydlynu’r holl waith da sydd eisoes yn cael ei wneud er mwyn gwella dysgu a lles ein holl blant a phobl ifanc oed ysgol yng Nghymru. Bydd hefyd yn sicrhau bod ein holl bolisïau yn cael eu cydlynu’n briodol yn y dyfodol.
Os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch:
Ebost: sef@wales.gsi.gov.uk
Ffôn: 02920 823216
Cyfeiriad:
Yr Is-adran Rheolaeth Ysgolion
Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
26/05/11 - Y Diweddaraf
25/01/11 - Cyflwyniad i godi ymwybyddiaeth o'r FfEY